Y Labordy

12-10-07  Uned 5
Gwyliwch Uned 5 ar S4C heddiw am 5pm (digidol yn unig) ac am 6-30pm, am y cyfle cyntaf i glywed ein can newydd Y GWIR.  Fydd na berfformiad hefyd o fersiwn arbennig o'r gan AM WASTRAFF, a baratowyd yn arbennig ar gyfer y rhaglen.

12-10-07  Caneuon newydd - am ddim!
Ond 'y ni'n garedig…?!  Dros yr haf, buon ni yn y sdiwdio yn recordio caneuon newydd, y tro yma, Llwybr Llaethog oedd yn cynhyrchu.  Recordiwyd 2 gan, y gynta, Y GWIR, can hollol newydd a sgrifennwyd ar ddechrau'r flwyddyn, a'r ail YMYLON, un o'r caneuon cynta i ni sgrifennu sawl blwyddyn yn ol, ond fersiwn eitha gwahanol i'r gan a berfformiwyd yn fyw yn y gorffennol.  Ma'r caneuon ar gael AM DDIM o'n tudalen myspace ni:  www.myspace.com/clinigolmusic

17-02-07 Y Selar
Mae yna gyfweliad gyda Aled a Geraint yn rhifyn diweddaraf Y Selar.  Os 'y chi'n perthyn i'r "Heat" generation, mae yna luniau neis hefyd.  Mae Y Selar am ddim, tystiolaeth felly i ddoethineb a gweledigaeth Luther a Janet.

25-01-07 Bandwagons
Hen bethau bach handi yw bandwagons.  Yn enwedig os y' chi'n hoffi neidio arnyn' nhw.  Felly dyma ni yn ail ddarganfod cyhyrau ein coesau ac yn ymuno yn yr hype ar gyfer drama newydd E4 "Skins", wedi'r cyfan mae Siwan Morris sy'n canu Am Wastraff, yr ail gan ar ein sengl, i'w gweld yn gwneud ei job go iawn (actio hynny yw!) yn y sioe - yn chwarae rhan Angie, tiwtor yn y coleg.  Felly gwyliwch Skins bob nos Iau ar E4 am 10 o'r gloch. 

22-01-07 Rhif 9!
Ni wedi cyrraedd rhif 9 ar siart C2 wythnos yma gyda'r sengl EILIAD, ein ymddangodiad cyntaf yn y siart.

18-12-06 O'r diwedd!
Wedi bron i bum mlynedd o waith caled, o ddadlau, o drafferthion cyfrifiadruol di-ddiwedd, mae diwrnod rhyddhau ein sengl cyntaf wedi cyrraedd.  Mae'n amser cyffrous iawn a ry'n ni'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi ein cefnogi hyd yma, yn enwedig Esyllt o Ciwdod, hebddi fyddai dim sengl!  Felly mae Eiliad ar gael o'r siopau lleol arferol a hefyd o www.sebon.co.uk  Prynwch a mwynhewch! 

11-12-06  Wythnos i fynd…
Mae'r Nadolig Glinigol yn digwydd ar y 18fed o Ragfyr eleni, gan fod ein sengl cynta Eiliad yn cael ei ryddhau - dim ond wythnos i fynd felly!  Ma'r sengl yn swnio ac yn edrych yn wych!  Cadwch olwg ar y wefan - fe fydd yna lincs yn ymddangos cyn hir i'r gwefannau a fydd yn gwerthu'r sengl.  Ry' ni hefyd yn edrych ymlaen i berfformio ym mharti 'Dolig Ciwdod wythnos nesa.  Ma'r holl noson yn top secret.  Wps!

20-11-06 Wedi 7
Cofiwch am Wedi 7 heno ar S4C! Mae Siwan Morris yn ymuno gyda ni am berfformiad arbennig o Am Wastraff.
13-11-06 Media Whorin'...
'Dy ni ddim yn ffysi.  Os y chi ishe ni - ma croeso i chi'n cael ni, yn enwedig os allwn ni wisgo lan a mynd ar y teledu.  A dyna ni'n neud fory... teithio draw i Lanelli i recordio can ar gyfer "Wedi 7", i'w ddarlledu nos Lun nesa. Ry' ni hefyd yn cael ein cyfweld gan Daf Du ar C2 nos Iau yma am 2030.  Cofiwch wrando i glywed mwy o berlau glinigaidd o enau y brodyr synthetig, Geraint and Aled.

3-11-06 Ar y radio...
Mae'r sengl i'w chlywed bellach ar Radio Cymru.  Os hoffech chi glywed y caneuon ar y radio yna tecstiwch 07786 20 10 30 neu ebostiwch c2@bbc.co.uk a/neu dylanameinir@bbc.co.uk

22-10-06 Fy ngwagle
Byth yn rai i fod ar ei hol hi, ni wedi ymuno o'r diwedd a'r chwyldro fyd eang a elwir "myspace". http://www.myspace.com/clinigolmusic"www.myspace.com/clinigolmusic  Pwy nath ddwyn myspace.com/clinigol?!!

12-10-06 Bandit
Mae lot yn digwydd yn myd clinigol ar hyn o bryd! I ddechrau, roedd y gig yn Clwb yn lwyddiant, felly diolch mawr i bawb!  Mae caneuon y sengl wedi eu cwblhau a mae nhw'n swnio'n wych!  Enw'r sengl fydd EILIAD, i'w rhyddhau ar Ragfyr 18fed - felly'n anrheg Nadolig perffaith!  Ewch i Therapi i glywed y caneuon.  Hefyd, ni'n gobeithio gweneud tipyn i hyrwyddo'r sengl dros yr wythnosau nesa - gan ddechre ar Bandit ar S4C, nos Iau 19eg o Hydref am 2130.  Ni'n perfformio Eiliad ac Am Wastraff (gyda Siwan Morris) ac mae Aled yn cael ei holi mewn launderette.  Not be missed!!

21-9-06 Clwb Ifor Bach
Peidiwch anghofio am ein perfformiad yng Nghlwb Ifor Bach nos Sadwrn.  Fe fydd Aled Clinigol tu ol y decks o 9 o'r gloch yn chwarae yr electro tunes gorau sy' na!  Yna, fe fydd y band mlaen tua 10-45 ac yn perfformio 7 can, gan gynnwys y "world premier" o'r sengl newydd Am Wastraff.  Os oes dim diddoredeb 'da chi yn y gerddoriaeth, yna dewch i weld gwallt a cholur Gemma - sydd am gymrud o leia 4 awr i'w wneud mae'n debyg!  Dyma greu hanes - dewch!!

21-8-06 Erm….Blwyddyn Newydd Dda?
Ydyn, ni 'di bod yn dawel iawn eleni, yn bennaf achos doedd neb yn gwbod beth oedd yn digwydd!  Ond ry' ni bellach yn gallu cadarnhau ein bod ni'n rhyddhau sengl gyda 3 can ar y 18fed o Ragfyr ar label Ciwdod.  Yn cynhyrchu mae Adam Williams (Jem - Finally Woken) gyda Geraint ac Aled yn cadw llygaid!  Yn canu Golau fydd Gemma Rees, Geraint Pickard fydd yn canu Eiliad a'r actores Siwan Morris fydd yn canu'r gan newydd Am Wastraff.  Mae'r gwaith o recordio'r caneuon wedi dechrau yn stiwdios The Loft yn y Bae.  Ry' ni hefyd yn perfformio gyda Ty Gwydr yn Clwb Ifor Bach ar nos Sadwrn y 23ain o Fedi, felly dewch a'ch dancing shoes!

 
Archif 2005

 
© clinigol 2005 - 2007 clinigol.com  
Design by Mark Sandler.com Back to The Waiting Room/Nol i'r stafell aros Since/Ers 26-02-05