|
Pennod 1: Chwedfror 2002 -
Ebrill 2005. Yn y Dechreuad…
Dau frawd yw Clinigol,
Geraint ac Aled Pickard, o Bontypridd yn wreiddiol, ond nawr yn byw yng
Nghaerdydd. Yn ddilynwyr brwd o'r sîn ddawns, roedd Aled yn DJ mewn clybie
nos yn Llundain yn chware disgo, electro a house tanddaearol, tra bod
Geraint yn gwrando mwy ar gerddoriaeth dawns y siartiau, R'n'B, a'r sdwff
synth/electro. Er bod Geraint wedi bod yn sgwennu rhywfaint o gerddoriaeth
ers blynyddoedd, heb y wybodaeth angenrheidiol dechnegol oedd angen i ddod a
chân yn fyw, fe arhosodd y syniadau ar bapur neu yn ei ben. Wedi sawl sgwrs
yn trafod prinder cerddoriaeth dawns/pop yn y Gymraeg, fe benderfynodd Aled
newid ei decks DJ am gyfrifiaduron a rhaglenni cyfrifiadurol, a symud yn ôl
i Gaerdydd i ffurfio Clinigol yn Chwefror 2002. Prosiect pop oedd Clinigol
am fod o'r cychwyn, gyda’r pwyslais ar felodďau cryf, ond daeth y math o bop
yn destun trafod. Roedd demos cynta'r band yn amrywio o draciau trance,
i bethau mwy ambient, ond yna yn ystod 2003, fe gynhyrchwyd demos
gyda swn synth-pop yr 80au, ac fe benderfynwyd dilyn y trywydd yma.
Ysgrifennwyd gormod/digon a Golau yn ystod y
cyfnod yma - mae clipiau o'r caneuon yma i'w clywed yn
therapi.
Fe ddaeth yr actores fach
gyda'r llais mawr, Gemma Rhys Jones yn rhan o'r prosiect, wedi iddi gwrdd â
Geraint tra'n gweithio ar "Bang - Antur Gerddorol” ar gyfer Gwyl Ryngwladol
Theatr Gerddorol Cymru yng Nghaerdydd yn Hydref 2002. Fe ymunodd Bethan
Mason nesa, actores arall, gyda llais mwy gwerinol, rhywiol, ar ôl cael ei
chlywed yn canu yng nghynhyrchiad Cwmni Theatr Gwent o
Tinderbox. Ym mis Ionawr 2004, fe
anfonwyd 3 trac offerynnol i dîm cynhyrchu rhaglen C2 BBC Radio Cymru.
Roedd diddordeb gyda'r cynhyrchwyr i glywed fersiynau gyda'r vocals, ac wedi
iddynt glywed 3 demo gorffenedig,
gormod/digon,
Eiliad
ac Ymylon,
gofynnwyd i'r band recordio sesiwn i'r rhaglen. Er bod
gormod/digon
wedi plesio o’r cychwyn, gofynnwyd am ganeuon mwy masnachol ar gyfer y 2 gan
arall. Derbyniwyd Tân
a Golau
yn Rhagfyr 2004. Recordiwyd y sesiwn yn ystod Ionawr a Chwefror 2005 yn
Stiwdios Street Level, Glanrafon, Caerdydd gyda Curig Huws, ac fe’i
darlledwyd am y tro cyntaf ar nos Iau, Ebrill y 7fed ar raglen Daf Du.
Pennod 2: Ebrill 2005 - Gorfennaf 2006. Lle ma' nhw nawr?
Felly dyma ni. Pennod 2 yn anturiaethau'r
brodyr Clingol, ac am gyfnod rhwystredig ma'r flwyddyn dwetha di bod. Wedi
ymateb da iawn i'r Sesiwn C2, tua 700 o ymwelwyr i'r wefan, chydig o gigs da,
chydig o gigs drwg, ymddangosiad (arbennig o dda!) ar Popty, ac yna dod o
dan adain Ciwdod, aeth pethau'n dawel iawn. Diflannodd Geraint ar daith
cenedlaethol o Hamlet, newidiodd Aled ei swydd rhyw 10 gwaith a prynu ty
arall, aeth Gemma i astudio yn y Royal Academy yn Llundain (posh iawn) ac fe
benderfynnodd ein mentor gwreiddiol gyda Ciwdod fod cael babi yn bwysicach
na achub dyfodol y sin electro-pop Gymraeg. Gwarthus.
Felly digwyddodd ddim byd am 6 mis. Dim.
Byd. O. Gwbl.
Yna, wedi serennu ar banel Can i Gymru, fe
benderfynnodd Geraint ac Esyllt Ciwdod (ein arweinydd newydd) mai rhyddhau
EP oedd y cam nesa. Cynhaliwyd cyfarfodydd, danfonwyd ebyst, ffoniwyd ffons,
cynhaliwyd mwy o gyfarfodydd, diflannodd sawl mis arall, tan o'r diwedd ym
mis Gorffennaf 2006, dechreuodd y band weithio gyda'r cynhyrchydd Adam
Williams. A dyna sicrhau ddyfydol cerddoriaeth electronig-boblogaidd
Gymraeg. Hwre.
Cwestiwn nesa - beth i ryddhau? Roedd
Golau
yn ddewis amlwg, wedi i'r gan cael ymateb mor dda dros y flwyddyn ddiwetha',
gyda Gemma Rhys Jones, wps, nage, Gemma Rees yn canu eto. 'Run gwallt, enw
gwahanol (ond 'ry ni'n eitha siwr mai yr un person yw hi). Un o ffefrynnau
Geraint ac Aled Eiliad
oedd y dewis nesa. Yna bu Geraint yn sgrifennu sdwff newydd ar ddechrau
2006, gan gynnwys cynnig ar greu math newydd o gerddoriaeth, Crunk
Electronig (?!), sef Am Wastraff.
Pa bynnag gategori yw'r gan - ro' ni eisiau ei ryddhau e!
Ac ar y pwynt yma, rhowch groeso i aelod
newydd o'r trwp glinigol, yr actores Siwan Morris, sy'n canu
Am
Wastraff.
Daeth Geraint a Siwan yn ffrindiau yn
ddiweddar. Ar goll ym myd sexy, feisty, gravelly-voiced a coolness
cyffredinol Siwan - trodd Geraint ati a gofyn…."Ti'n gallu canu?!" The
rest, fel mae nhw'n gweud, will be history... |