Staff
 
 

GEMMA REES
Ers graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Gemma wedi gweithio fel actores ym myd teledu, radio a theatr.
Mae cerddoriaeth wedi bod yn ddylanwad mawr arni. Mae wedi canu mewn ieithoedd gwahanol, fel Eidaleg a Ffrengig, ers ei phlentyndod. Mae gweithio gyda Clinigol wedi bod yn brofiad arbennig, gan ei fod wedi ei chyflwyno i gerddoriaeth ac arddull o ganu newydd.

Mae Gemma newydd gwblhau blwyddyn lwyddiannus iawn yn y Royal Academy yn Llundain - ac mae'n gobeithio nawr i gyfuno mwy o ganu ac actio.

SIWAN MORRIS
Actores yw Siwan a hyfforddwyd yn The Manchester Metropolitan School of Theatre.
 
Ar ol graddio, fe aeth Siwan i weithio gyda Terry Hands a Clwyd Theatr Cymru yn ei dymor cynta o waith repertory.
Ers hynny, mae Siwan wedi gweithio mewn sawl theatr, gan gynnwys The Royal Court, The Lyric West End a'r Bristol Old Vic. Hefyd ar nifer o raglenni teledu, fel 'Mine All Mine', 'Casualty', 'The Bill', 'Belonging', 'Caerdydd' a 'Con Passionate'.

Ar hyn o bryd, mae Siwan yn ffilmio cyfres ddrama newydd i E4 o'r enw 'Skins', i'w ddarlledu blwyddyn nesa.

BETHAN MASON
Actores yw Bethan, sydd wedi bod yn gweithio'n eang ym maes y theatre a'r teledu ers graddio o Goleg Cerdd a Drama Cymru.

Mae hi'n canu'r delyn geltaidd ac yn brysur yn paratoi caneuon ar gyfer ei CD - fydd hwn yn gymysg o ganeuon traddodiadol a chaneuon ei hunan.

Yn ddiweddar, bu Bethan yn perfformio gyda'i thelyn yng Ngwyl Geltaidd 'Cwlwm Geltaidd' ym Mhorthcawl.


 

 
© clinigol 2005 - 2007 clinigol.com  
Design by Mark Sandler.com Back to The Waiting Room/Nol i'r stafell aros Since/Ers 26-02-05