|
Archif 2005
24-6-05
Crynodeb glinigol
Wedi perfformiad
llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd (diolch i bawb am gefnogi!) fe fydd y
band yn perfformio nesa yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar Ystad y Faenol, ger
Bangor. Fe fydd na 2 berfformiad ar ddydd Iau, 6ed o Awst, y gynta am un
o'r gloch ar lwyfan acwstig y maes, a'r nesa ar Faes B, eto ar y llwyfan
acwstig. Ma'r band hefyd wrthi'n paratoi ar gyfer ei ymddangosiad cynta ar
y teledu, ar Popty,
sy'n cael ei recordio ym mis Gorffennaf i'w ddarlledu ar 28ain o Fedi ar S4C.
Ac yn yr adran therapi nawr, fe allwch chi glywed rhai o'r caneuon a
berfformiwyd yn fyw ar lwyfan Radio Cymru yn yr Eisteddfod (gyda chaniatad
Radio Cymru - diolch!)
28-5-05 Manylion
y perfformiad 1af
Fe fydd y band yn
perfformio 7 o ganeuon ar lwyfan Radio Cymru, gan gynnwys 4 o ganeuon
newydd. Dyma'r rhestr o ganeuon… 11-30 - (agorawd), golau, gormod/digon,
ymylon, ffasiwn. 12-30 - breuddwyd (ar doriad gwawr), eiliad, tan,
gormod/digon & golau.
06-5-05
Perfformiad Cyntaf!
Cadarnhawyd
heddiw y bydd Clinigol yn perfformio am y tro cyntaf ar lwyfan Radio
Cymru/S4C yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd, ddydd Mawrth y 31ain o Fai. Bydd
y band yn perfformio 2 set wahanol, y cyntaf am 11-30yb a'r nesa am
12-30yp. Fe fydd manylion y perfformiad yn cael ei cyhoeddi yn fuan.
30-4-05
Cylchgrawn "V"
Fe
fydd na erthygl ar y band yn ymddangos yn rhifyn wythnos nesa o gylchgrawn
"V", sy'n ran o "Golwg", ar werth dydd Iau 5ed o Fai. Mae yna gyfweliad
gyda Geraint, un hanner o Clinigol, a llunie cynta'r band a dynnwyd ar noson
oer a diflas ychydig ddyddie nol ym Mae Caerdydd
31-03-05
Pop'n'roll
Fe
fydd y sesiwn a recordiwyd ar gyfer rhaglen C2 Radio Cymru yn cael ei
ddarlledu am y tro cynta, ar nos Iau y 7fed o Ebrill rhwng 2000 a 2130 ar
raglen Daf Du.
26-2-05 Cwblhau'r 3 thrac cynta
Mae ein tri thrac cynta
gormod/digon,
tan
a
golau
wedi eu recordio fel sesiwn i
C2 Radio
Cymru, fe fydden nhw'n cael eu chwarae am y tro cyntaf tua diwedd mis
Mawrth. Ma clipiau o'r caneuon i'w clywed wrth fynd i
Therapi
a gadewch i ni wybod be
chi'n feddwl wrth fynd i
Galwch y
Doctor. |