|
Archif 2007
12-10-07 Uned 5
Gwyliwch Uned 5 ar S4C heddiw am 5pm (digidol yn unig)
ac am 6-30pm, am y cyfle cyntaf i glywed ein can newydd
Y GWIR. Fydd na berfformiad hefyd o fersiwn arbennig o'r
gan AM WASTRAFF, a baratowyd yn arbennig ar gyfer y
rhaglen.
12-10-07 Caneuon newydd - am ddim!
Ond 'y ni'n garedig…?! Dros yr haf, buon ni yn y sdiwdio
yn recordio caneuon newydd, y tro yma, Llwybr Llaethog
oedd yn cynhyrchu. Recordiwyd 2 gan, y gynta, Y GWIR,
can hollol newydd a sgrifennwyd ar ddechrau'r flwyddyn,
a'r ail YMYLON, un o'r caneuon cynta i ni sgrifennu sawl
blwyddyn yn ol, ond fersiwn eitha gwahanol i'r gan a
berfformiwyd yn fyw yn y gorffennol. Ma'r caneuon ar
gael AM DDIM o'n tudalen myspace ni:
www.myspace.com/clinigolmusic
17-02-07 Y Selar
Mae yna gyfweliad gyda Aled a Geraint yn rhifyn
diweddaraf Y Selar. Os 'y chi'n perthyn i'r "Heat"
generation, mae yna luniau neis hefyd. Mae Y Selar am
ddim, tystiolaeth felly i ddoethineb a gweledigaeth
Luther a Janet.
25-01-07 Bandwagons
Hen bethau bach handi yw bandwagons. Yn enwedig os y'
chi'n hoffi neidio arnyn' nhw. Felly dyma ni yn ail
ddarganfod cyhyrau ein coesau ac yn ymuno yn yr hype ar
gyfer drama newydd E4 "Skins", wedi'r cyfan mae Siwan
Morris sy'n canu Am Wastraff, yr ail gan ar ein sengl,
i'w gweld yn gwneud ei job go iawn (actio hynny yw!) yn
y sioe - yn chwarae rhan Angie, tiwtor yn y coleg. Felly
gwyliwch Skins bob nos Iau ar E4 am 10 o'r gloch.
22-01-07 Rhif 9!
Ni wedi cyrraedd rhif 9 ar siart C2 wythnos yma gyda'r
sengl EILIAD, ein ymddangodiad cyntaf yn y siart.
18-12-06 O'r diwedd!
Wedi bron i bum mlynedd o waith caled, o ddadlau, o
drafferthion cyfrifiadruol di-ddiwedd, mae diwrnod
rhyddhau ein sengl cyntaf wedi cyrraedd. Mae'n amser
cyffrous iawn a ry'n ni'n ddiolchgar iawn i bawb sydd
wedi ein cefnogi hyd yma, yn enwedig Esyllt o Ciwdod,
hebddi fyddai dim sengl! Felly mae Eiliad ar gael o'r
siopau lleol arferol a hefyd o
www.sebon.co.uk
Prynwch a mwynhewch!
11-12-06 Wythnos i fynd…
Mae'r Nadolig Glinigol yn digwydd ar y 18fed o Ragfyr
eleni, gan fod ein sengl cynta Eiliad yn cael ei ryddhau
- dim ond wythnos i fynd felly! Ma'r sengl yn swnio ac
yn edrych yn wych! Cadwch olwg ar y wefan - fe fydd yna
lincs yn ymddangos cyn hir i'r gwefannau a fydd yn
gwerthu'r sengl. Ry' ni hefyd yn edrych ymlaen i
berfformio ym mharti 'Dolig Ciwdod wythnos nesa. Ma'r
holl noson yn top secret. Wps!
20-11-06 Wedi 7
Cofiwch am Wedi 7 heno ar S4C! Mae Siwan Morris yn ymuno
gyda ni am berfformiad arbennig o Am Wastraff.
13-11-06 Media Whorin'...
'Dy ni ddim yn ffysi. Os y chi ishe ni - ma croeso i
chi'n cael ni, yn enwedig os allwn ni wisgo lan a mynd
ar y teledu. A dyna ni'n neud fory... teithio draw i
Lanelli i recordio can ar gyfer "Wedi 7", i'w ddarlledu
nos Lun nesa. Ry' ni hefyd yn cael ein cyfweld gan Daf
Du ar C2 nos Iau yma am 2030. Cofiwch wrando i glywed
mwy o berlau glinigaidd o enau y brodyr synthetig,
Geraint and Aled.
3-11-06 Ar y radio...
Mae'r sengl i'w chlywed bellach ar Radio Cymru. Os
hoffech chi glywed y caneuon ar y radio yna tecstiwch
07786 20 10 30 neu ebostiwch c2@bbc.co.uk a/neu
dylanameinir@bbc.co.uk
22-10-06 Fy ngwagle
Byth yn rai i fod ar ei hol hi, ni wedi ymuno o'r diwedd
a'r chwyldro fyd eang a elwir "myspace". http://www.myspace.com/clinigolmusic"www.myspace.com/clinigolmusic
Pwy nath ddwyn myspace.com/clinigol?!!
12-10-06 Bandit
Mae lot yn digwydd yn myd clinigol ar hyn o bryd! I
ddechrau, roedd y gig yn Clwb yn lwyddiant, felly diolch
mawr i bawb! Mae caneuon y sengl wedi eu cwblhau a mae
nhw'n swnio'n wych! Enw'r sengl fydd EILIAD, i'w
rhyddhau ar Ragfyr 18fed - felly'n anrheg Nadolig
perffaith! Ewch i Therapi i glywed y caneuon. Hefyd,
ni'n gobeithio gweneud tipyn i hyrwyddo'r sengl dros yr
wythnosau nesa - gan ddechre ar Bandit ar S4C, nos Iau
19eg o Hydref am 2130. Ni'n perfformio Eiliad ac Am
Wastraff (gyda Siwan Morris) ac mae Aled yn cael ei holi
mewn launderette. Not be missed!!
21-9-06 Clwb Ifor Bach
Peidiwch anghofio am ein perfformiad yng Nghlwb Ifor
Bach nos Sadwrn. Fe fydd Aled Clinigol tu ol y decks o 9
o'r gloch yn chwarae yr electro tunes gorau sy' na! Yna,
fe fydd y band mlaen tua 10-45 ac yn perfformio 7 can,
gan gynnwys y "world premier" o'r sengl newydd Am
Wastraff. Os oes dim diddoredeb 'da chi yn y
gerddoriaeth, yna dewch i weld gwallt a cholur Gemma -
sydd am gymrud o leia 4 awr i'w wneud mae'n debyg! Dyma
greu hanes - dewch!!
21-8-06 Erm….Blwyddyn Newydd Dda?
Ydyn, ni 'di bod yn dawel iawn eleni, yn bennaf achos
doedd neb yn gwbod beth oedd yn digwydd! Ond ry' ni
bellach yn gallu cadarnhau ein bod ni'n rhyddhau sengl
gyda 3 can ar y 18fed o Ragfyr ar label Ciwdod. Yn
cynhyrchu mae Adam Williams (Jem - Finally Woken) gyda
Geraint ac Aled yn cadw llygaid! Yn canu Golau fydd
Gemma Rees, Geraint Pickard fydd yn canu Eiliad a'r
actores Siwan Morris fydd yn canu'r gan newydd Am
Wastraff. Mae'r gwaith o recordio'r caneuon wedi dechrau
yn stiwdios The Loft yn y Bae. Ry' ni hefyd yn
perfformio gyda Ty Gwydr yn Clwb Ifor Bach ar nos Sadwrn
y 23ain o Fedi, felly dewch a'ch dancing shoes! |