Y LABORDY OPERATIONS THERAPI X-Ray  COFNOD MEDDYGOL STAFF PRESGRIPSIWN GALW DOCTOR CLEIFION ALLANOL
Mae Clinigol towers fel revolving doors o'r gwych, y da a'r meddw o Gymru. Allen ni ddim neud e hebddyn nhw - yn nhrefn ymddangosiad, dyma'u moment!

• Y "Clini-babe" gwreiddiol, mae'r actores Siwan Morris yn canu ar 3 cân, "Am Wastraff", "Sibrwd" a "La Nuit, Si Douce."
• Lly-fwch-fwch-fwch ei Hufen Iâ, hoff flas yr hyfryd a'r awgrymiadol Marged Parry yw fanila-la-la.
• New-best-friend Clinigol, Nia Medi, un o gyflwynwyr C2 sy'n beltio "93" a'r bits gorau ar "Gyd O'r Blaen".
• Mae'r rapper o Gaernarfon, Cofi Bach, yn dod a bach o flas hip-hop i'r trac "Gwertha Dy Hun", sydd hefyd yn cynnwys DJ Jaffa.
• Gyda dros 40 mlynedd yn y busnes, roedd yn fraint ac anrhydedd cael Margaret Williams yn bwrw'r nodau uchel i gyd ar "gormod/digon".
• Mae'r eiconig Heather Jones yn swnio mor dda a ffresh ag erioed ar "Dim Ond Ti Sydd Ar Ôl".
• Pan ddaw'r band hip-hop/electronig Bleed Electric a Clinigol ynghyd, beth sy'n digwydd? Y trac "Oh My Days" sy'n digwydd!

Mae'r traciau uchod i gyd ar gael ar albym cyntaf y band MELYS - sydd ar gael nawr o www.fflach.co.uk/shop neu o iTunes.
I'r ddegawd newydd ac mae EP newydd y band, SWIGOD, ar gael i'w lawrlwytho o'r llefydd arferol (iTunes, Amazon, Play etc) ac ar yr EP, mwy o Clini-babes, hwre!

• Nawr te. El Parisa. Mae hi'n hoff o'i diod. Doedd Amy Winehouse ddim ar gael, felly pwy gwell i ganu cân am yfed siampen o'r enw "Swigod"     
   na El "Pariso" Parisa?!
• Does dim syniad gyda ni am beth mae Brenhines y Tywyllwch, Rufus Mufasa, yn parablu. Ond who cares, achos mae "Perygl" yn SICK SICK SICK!

Mae Nia Medi a Heather Jones ar yr EP newydd hefyd, yn perfformio fersiynau hyfryd acwstig o'u caneuon nhw, achos ni'n proper musicians hefyd pan ry' ni eisiau bod maaaaan.

A dyna'r stori hyd yma. To be continued…
 

© clinigol 2005 - 2010

clinigol.com
Design by Mark Sandler.com   Since/Ers 26-02-05